Rhif y ddeiseb: P-06-1244

Teitl y ddeiseb: Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas

Geiriad y ddeiseb: Mae hanes bellach yn dangos i ba raddau roedd George Thomas yn euog yng ngoleuni camddefnyddio arian a roddwyd i oroeswyr a theuluoedd a oedd yn eu galar yn dilyn trychineb Aberfan. Mae’r ffaith bod y dyn hwn wedi cael ei anrhydeddu drwy enwi ysbyty ar ei ôl yn sen y dylid ei chywiro.

 

 


1.        Cefndir

Mae Ysbyty George Thomas wedi ei leoli yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf. Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cafodd y cyfleuster ei agor yn swyddogol ym 1991 gan y gwleidydd Llafur a chyn Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, George Thomas (Is-iarll Tonypandy yn ddiweddarach), ac fe enwyd yr ysbyty ar ei ôl.

Ym 1966, ar adeg trychineb Aberfan George Thomas oedd Ysgrifenydd Gwladol Cymru. Collodd 144 o bobl – 116 ohonyn nhw’n blant yn Ysgol Iau Pantglas – eu bywydau yn sgil y trychineb, sef cwymp catastroffig o domen sbwriel pwll glo.

Cafodd y Tribiwnlys Ymchwilio i Drychineb Aberfan (Tribiwnlys Trychineb Aberfan), dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ustus Edmund Davies, ei sefydlu ym 1966 i ymchwilio i achosion ac amgylchiadau'r trychineb. Fe wnaeth adroddiad y tribiwnlys osod y bai am y trychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan enwi naw o'i staff fel rhai sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb. Gwrthododd yr Bwrdd Glo Cenedlaethol – a oedd yn rhedeg pyllau glo Prydain ac a oedd yn gyfrifol am y domen lo – dalu am ei symud.

Er iddo gytuno i gael gwared ar y tomennydd sbwriel uwchben Aberfan ar ôl y trychineb, roedd gan George Thomas yn rhan o benderfyniad gan Lywodraeth Wilson i gymryd £150,000 o gronfa elusen Aberfan – a godwyd i helpu dioddefwyr y trychineb a'u teuluoedd – er mwyn talu rhan o gostau’r gwaith symud. Fe wnaeth yr hanesydd Martin Johnesysgrifennu bod George Thomas yn gwrthwynebu’r penderfyniad i ddechrau ond nad oedd ei lais unig yn y cabinet yn ddigonol ac yn y diwedd, cydsyniodd â’r cynllun a rhoi pwysau moesol cryf ar y gronfa drychineb i sicrhau ei bod hithau hefyd yn ildio.

Ym 1997 – 30 mlynedd ar ôl y trychineb – fe dalwyd arian yn ôl i'r gronfa elusennol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru oedd newydd ei benodi ar y pryd, Ron Davies, a ddywedodd: "It was a wrong perpetrated by a previous government – a Labour Secretary of State. I regarded it as an embarrassment. It was a wrong that needed to be righted."

 

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae’r llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi nad mater i Lywodraeth Cymru yw ailenwi’r ysbyty, ac y dylid codi’r mater gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. At hynny, mae’n nodi:

…dylai’r deisebwyr fod yn ymwybodol y byddai angen i unrhyw drafodaethau ynghylch newid enw gynnwys y goblygiadau o ran y gost i’r bwrdd iechyd; er enghraifft y gost o newid arwyddion (ar gyfer adeiladau a cherbydau) a deunyddiau ysgrifennu, yn ogystal â’r goblygiadau ar gyfer TG a chontractau. Hefyd byddai angen i staff dreulio amser sylweddol yn cyfarfod ac yn cynllunio ar gyfer penderfynu ar enw newydd ac wedyn ei ymgorffori, a hynny ar adeg pan fo’r GIG yn gorfod canolbwyntio ar roi sylw i effeithiau parhaus y pandemig ac ar yr ymdrechion i adfer ohonynt.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru archwiliad o gerfluniau, enwau strydoedd ac enwau adeiladau i fynd i'r afael â chysylltiadau Cymru â'r fasnach gaethwasiaeth, o dan arweinyddiaeth Gaynor Legall. Ym mis Tachwedd 2020 fe wnaeth Archwiliad Legall nodi 209 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd – wedi’u lleoli ym mhob rhan o Gymru – sy’n coffáu pobl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chaethwasiaeth a’r fasnach gaethweision neu a wrthwynebodd ei ddileu. Ni wnaeth yr adroddiad hwnnw ystyried materion hanesyddol ehangach – fel yr un sydd o dan sylw gan y ddeiseb hon – ond fel rhan o’i hymateb mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyhoeddi canllawiau ar ddatrys anghydfodau ynghylch gweithredoedd o goffáu hanesyddol.  

 

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn 2020, cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd flaenorol ymholiad i weithredoedd cyhoeddus o goffáu, yn sgil dymchwel cerflun Colston ym Mryste, a chynnal trafodaeth eang am briodoldeb henebion hanesyddol.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad roedd y “dylai Llywodraeth Cymru greu dogfen ganllaw gynhwysfawr “siop un stop” ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn ymwneud â gweithredoedd coffáu yng Nghymru”.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.